NT Live: Nye [15]
Ar ei wely angau mae Aneurin 'Nye' Bevan yn mynd ar daith swreal o'i atgofion dyfnaf, gan fynd yn ol drwy ei blentyndod, i'w amser yn cloddio glo dan ddaear i ddadleuon tanbaid gyda Churchill.
Bydd y ffantasia epig hwn, wedi ei ysgrifennu gan Tim Price, yn cael ei ddarlledu'n fyw o'r National Theatre ar y noson.