John ac Alun yn Dathlu 35
Dewch draw i Galeri Caernarfon i ymuno a'r dathlu mewn cyngerdd arbennig iawn i nodi 35 mlynedd o'r ddeuawd enwog o Benllyn.
Yn cefnogi ar y noson mae llu o ffrindiau talentog - Iona ac Andy, Dylan a Neil, Gethin a Glesni a Meryl Elin, ac i gadw trefn ar y cyfan bydd y dyn digri o'r Bala Dilwyn Morgan yn cyflwyno.
Mae hon am fod yn noson boblogaidd, felly mynnwch eich tocyn yn gynnar i osgoi siom!
19:00 -
Dydd Gwener, 14 Mehefin
Tocynnau