galeri
ryan-gosling

Unlimited @ Galeri

Mae Unlimited wedi bod yn gweithio gyfa lleoliadau a sefydliadau partner ledled Cymru i gynllunio cyfres o ddigwyddiadau sy’n tynnu artistiaid, lleoliadau, sefydliadau a’r cyhoedd at ei gilydd i drafod celfyddydau a arweinir gan bobl anabl, mynediad, clywed gan artistiaid a gomisiynwyd gan Unlimited, gweld gwaith gan artistiaid anabl, a chwrdd â chysylltiadau newydd.

Yn Galeri, ar ddydd Mawrth, 11eg o Chwefror, rydym yn cynnal diwrnod i ystyried sut mae gwaith artistiaid anabl yn cymryd ei le o fewn y rhaglennu a churadu a wneir gan y lleoliadau; cyfunir hyn â mewnosodiad a sgwrs gan Kristina Veasey, artist a gomisiynwyd gan Unlimited.

Bydd ein diwrnod ni yn canolbwyntio ar drafod ble mae gwaith artistiaid anabl yn perthyn o fewn rhaglennu a marchnata, a rhai o’r cwestiynau y bydd y panel yn ei drafod fydd a ddylid labelu gwaith fel celfyddydau anabledd? Sut mae adrannau marchnata yn ‘delio’ â’r pwnc?

Bydd y dydd yn cynnwys sesiwn ‘pitsio’ gan artistiaid, cinio rhwydweithio, sesiwn banel a chwestiynau, perfformiad ac arddangosfa. Gellir lawrlwytho’r amserlen lawn yma.

Am fwy o fanylion, i gofrestru ac archebu tocynnau:

ryan-gosling

10:30 – 16:30
Unlimited Connects: ‘Trafod Rhaglennu’
Mynediad am ddim (rhaid cofrestru)

                                                                    

ryan-gosling

18:30
Just a Few Words
£12 / £10 / £8

 

 

ryan-gosling

ryan-gosling