Ar gyfer y Nadolig, mae HWB Caernarfon wedi trefnu bod llawr sglefrio am fod ar Y Maes…
![]() Cliciwch yma i archebu tocynnau |
Mwynhewch 45 munud o sglefrio yng nghwmni ffrindiau, teulu a chydweithwyr ar lawr sglefrio ‘go iawn’ (yr un cytaf i’w gael yma yng Nghaernarfon) gyda’r castell yn gefnlen.
Bydd y llawr sglefrio dan-do 10m x 15m ar agor rhwng Tachwedd 18 a Ionawr 5 (ar gau diwrnod Nadolig) yn cynnig atyniad ychwanegol i drigolion y dref, yr ardal a twristiaid.
Y gobaith yw y bydd pobl yn gwneud y mwyaf o’r atyniad gan ddod i siopa ‘Dolig, mwynhau pryd o fwyd a chymdeithasu gydag eraill yn y dref gan gyfrannu ar y bwrlwm a’r economi yma yng Nghaernarfon.
Darllennwch y telerau ac amodau cyn archebu - Cliciwch yma
Mae’r llawr sglefrio ar agor yn ddyddiol rhwng 10:00 – 20:00 (sesiwn olaf am 19:00). Dyma fanylion/prisiau tocynnau ar gyfer y cyfnod:
Sadwrn – Sul | 10:00 – 20:00 | £8.50 (oed 12+) £6 (11 oed neu fengach) £25 (teulu x4) |
|
Llun – Gwener | 23.12.19 – 03.01.20 | 10:00 – 20:00 | £8.50 (oed 12+) £6 (11 oed neu fengach) £25 (teulu x4) |
Llogi pengwin | £5 (10 ar gael pob sesiwn) |
Gellir archebu tocynnau:
Awgrymwn yn gryf eich bod yn archebu eich tocyn yn gynnar i osgoi siom.
Noder rhwng Rhagfyr 16 a Ionawr 2 – bydd maes parcio Cei Llechi ar gael yn rhad ac am ddim.
Trefnir y digwyddiad yma gan HWB Caernarfon – asiant.gwerthwyr tocynnau yn unig yw Galeri Caernarfon Cyf.