(Christmas is Miles Away)
gan Chloë Moss
Trosiad gan Gwawr Loader
Cynhyrchiad Criw Brwd a Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â The Other Room a Theatr Soar
“Drama ddoniol, dyner wedi ei chyfarwyddo’n fedrus” – Barn
Mae Luke a Christie yn ffrindiau gorau sy’n joio gwersylla, yfed cans a siarad am Julie Bridges. Ond pan ddaw eu dyddiau ysgol i ben, a fydd Luke, Christie a Julie yn dewis llwybrau gwahanol? Wedi’i osod yng nghymoedd y de ym 1989, dyma ddrama dyner am gyfeillgarwch, gobeithion ac ofnau pobl ifanc ym mhob oes.
Bydd y perfformiad yn cael ei ffrydio’n fyw ar-lein ar y dyddiadau/amseroedd isod:
Iau | 13.05.21 | 20:00 | ||
Gwener | 14.05.21 | 20:00 | ||
Iau | 20.05.21 | 13:30 | ||
Iau | 20.05.21 | 20:00 | Perfformiad gyda BSL | |
Gwener | 21.05.21 | 20:00 | Perfformiad gyda capsiynau Saesneg |
Pris llawn: | £10 |
Pris gostyngedig: | £5 |
Tocyn ysgol: | £30 |
Canllaw oed: 14+ (yn cynnwys iaith gref a themâu aeddfed)
#PrydMaerHaf