Dewch am brynhawn hwyliog i Galeri a chael eich diddanu gan disgyblion yr ysgol uwchradd leol, Ysgol Syr Hugh Owen, cyn iddynt fentro dros y dŵr i Sir Fôn i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd!
Mae ein cyfres cyngherddau Tonic yn rai hamddenol eu naws ac yn hygyrch ac agored i bawb. Cyngerdd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd paned a lluniaeth ysgafn i ddilyn (am ddim gyda’ch tocyn).