CinemaLive yn cyflwynoLes Misérables - The Staged Concert (40thAnniversary celebration)
O’r llwyfan mawr i’r sgrin, mae’n bleser gennym gyflwyno cyfres The World’s Greatest Stage Musicals fel rhan o’r rhaglen sinema.
Wedi’i weld gan dros 120 miliwn o bobl ledled y byd, mae Les Misérables yn ddiamau yn un o sioeau cerdd mwyaf poblogaidd y byd. Yn 2019, cynhyrchodd Cameron Mackintosh fersiwn cyngerdd llwyfan ysblennydd a werthodd bob tocyn yn Theatr Gielgud yn cynnwys cast llawn sêr yn cynnwys Michael Ball, Alfie Boe, Carrie Hope Fletcher, Matt Lucas a John Owen Jones. Nawr gall cynulleidfaoedd sinema brofi encore unigryw o'r sioe anhygoel hon i ddathlu 40 mlwyddiant Les Misérables. Yn cynnwys cast a cherddorfa o dros 65 ac yn cynnwys y caneuon “I Dreamed A Dream”, “Bring Him Home”, “One Day More” ac “On My Own", nid yw’r cyngerdd llwyfan cyffrous hwn i’w golli.