galeri


PAW Patrol: The Mighty Movie (U) Hamddenol & Is-Deitlau / Relaxed & Subtitled

image

DANGOSIAD HAMDDENOL GYDAG IS-DEITLAU – mi fydd yr amgylchedd wedi ei addasu i fod yn fwy ymlaciol a hygyrch. Bydd y golau a lefel sain yn cael eu addasu a bydd croeso i unrhyw un godi, symud ogwmpas a siarad/gwneud swn i fod yn fwy cyfforddus. Bydd y dangosiad hefyd yn cynnwys is-deitlau. Croeso cynnes i bawb!


Mae cwn bach y PAW Patrol yn cael pwerau goruwchnaturiol wedi i feteor daro Adventure City.  Fodd bynnag, mae pethau'n mynd o'i le pan mae Humdinger a gwyddonydd gwallgof yn dwyn pwerau'r gang ac yn troi eu hunain fewn i ddihirod nerthol.

Mae’r ffilm yn dechrau’n brydlon ar yr amser a nodir. Bydd y drysau yn agor a’r hysbysebion yn dechrau 20 munud cyn amser dechrau’r ffilm. Sicrhewch eich bod yn cyrraedd Galeri gyda digon o amser (gan gysidro traffic / parcio) – mae hawl gennym wrthod mynediad i’r ffilm os yn cyrraedd yn hwyr. 

Bydd pris tocynnau yn codi £2 yr un ar ddiwrnod y dangosiad (os oes tocynnau ar gael). Mae pris tocynnau yn cynnwys ffi archebu o £1.50 y tocyn.

10:00 - Dydd Sadwrn, 7 Hydref Tocynnau

10:00 - Dydd Sadwrn, 14 Hydref Tocynnau

10:00 - Dydd Sadwrn, 28 Hydref Tocynnau


Trêl