‘Da ni’n hynod gyffroes i groesawu Mellt nol i Galeri wrth iddynt lansio eu hail albwm, ‘Dim Dwywaith’.
Mae mae'r triawd yn wreiddiol o Aberystwyth, ond bellach yn byw yng Nghaerdydd. Enillodd eu halbwm cyntaf ‘Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc’ wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn 2018, ac fe’i henwebwyd ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yr un flwyddyn.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at glywed eu gwaith newydd, 5 mlynedd yn ddiweddarach, felly bachwch docyn ar gyfer eich unig gyfle i'w gweld yn y gogledd!
Yn cefnogi: Los Blancos a Skylrk
Gig sefyll yn y theatr.
Drysau @ 19:30
Band cyntaf @ 20:00
*mynediad olaf am 21:00
Tocynnau: £10 ymlaen llaw // £12 ar y diwrnod
Canllaw oed: 14+ (gydag oedolyn) // 16+ (heb oedolyn)
19:30 - Dydd Sadwrn, 2 Rhagfyr Tocynnau