It's a Wonderful Life: Dementia gyfeillgar/friendly
Pan mae pethau'n edrych yn dywyll iawn ym mywyd y dyn busnes, George Bailey, mae angel nefolaidd o'r enw Clarence yn ymddangos, ar genhadaeth i geisio codi calon George drwy ddangos iddo sut fyddai bywyd yn edrych heb ei fodolaeth.
Clasur Nadoligaidd am un dangosiad yn unig!
Mi fydd y ffilm yn dechrau’n brydlon ar amser. Bydd y drysau yn agor 20 munud cyn amser dechrau’r ffilm.
Dangosiad hamddenol – yn addas ar gyfer unigolion sydd yn byw hefo dementia a’u teuluoedd. Bydd lefel y sain fymryn yn is na’r arfer a bydd ychydig o olau ymlaen yn y theatr drwy gydol y ffilm.
11:00 -
Dydd Mercher, 13 Rhagfyr
Tocynnau