TONIC - Welsh Whisperer
Estynwn groeso mawr i Galeri i’r diddanwr digri’ o Sir Gar, Welsh Whisperer! Ymunwch efo ni am b’nawn o hits cefn gwlad yn cynnwys ‘Ni’n Beilo Nawr’ a ‘Loris Mansel Davies’.
Mae cyngherddau TONIC yn rai hamddenol eu naws ac yn hygyrch ac agored i bawb. Cyngerdd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd paned a bisged i ddilyn (am ddim gyda’ch tocyn).