Teenage Mutant Ninja Turtles: Mutant Mayhem [PG]
Wedi blynyddoedd o gael eu cysgodi o'r byd dynol, mae'r pedwar crwban anturus yn ceisio dwyn calonnau trigolion Efrog Newydd a chael eu derbyn fel bechgyn normal.
Yn y cyfamser mae eu ffrind newydd, April O'Neil yn helpu i drechu gang o droseddwyr dirgel. Mae nhw'n prysur sylweddoli eu bod nhw allan o'u dyfnder pan gaiff byddin o fwystfilod gwallgof eu rhyddhau i'w ymosod.
Mae’r ffilm yn dechrau’n brydlon ar yr amser a nodir. Bydd y drysau yn agor a’r hysbysebion yn dechrau 20 munud cyn amser dechrau’r ffilm. Sicrhewch eich bod yn cyrraedd Galeri gyda digon o amser (gan gysidro traffic / parcio)- mae hawl gennym wrthod mynediad i’r ffilm os yn cyrraedd yn hwyr.
Bydd pris tocynnau yn codi £2 yr un ar ddiwrnod y dangosiad (os oes tocynnau ar gael). Mae pris tocynnau yn cynnwys ffi archebu o £1.50 y tocyn.