galeri


TONIC: Gwyneth Glyn a Twm Morys

image

Cyngerdd yng nghwmni’r llenor a’r cerddor Gwyneth Glyn a’r prifardd Twm Morys.

 

Bydd y ddeuawd yn perfformio amrywiaeth o ganeuon gwerinol eu naws gan hel straeon ysgafn rhwng y gerddoriaeth.

 

Mae’r ddau artist yn enwog am eu geiriau cywrain a chelfydd sy’n adrodd straeon all eich tywys ar daith o ddelwedd i ddelwedd wrth lifo’n dawel rhwng ambell i blwc a thinc o’r gitar. Bydd hwn yn brynhawn i’w gofio yng nghwmni dau o artistiad mwyaf clodfawr Cymru.

 

Perfformiad hamddenol a hygyrch i bawb.

Digwyddiad Cymraeg

Bydd paned i ddilyn

14:30 - Dydd Iau, 19 Medi Tocynnau