I dderbyn gwybodaeth am ddigwyddiadau a chynyrchiadau’r dyfodol a chyfle i ennill gwobrau misol, yna cliciwch yma.
|
|
Recordiau Llychlyd
| |
:: Recordiau Llychlyd
|
Arddangosfa o waith gan Meirion Ginsberg
“Mae’r lluniau diweddar hyn wedi’u seilio’n fras ar brofiadau personol wedi’u cyfuno â delweddau wedi’u canfod y tu allan i’m bywyd beunyddiol, i greu teimlad o undod a gwrthdaro rhwng y cymeriadau yn y llun a’r gwyliwr.
“Er fy mod i wedi defnyddio persbectif Dadaistaidd ar gynhyrchu fy lluniau, rydw i’n teimlo bod yna elfen o naratif. Mae hyn yn gwneud peintio’n gyffrous i mi achos dydw i byth yn gwybod beth ddaw ohoni.
“Dwi’n gredwr cryf mewn gweithio’n ddigymell a mentro wrth ymarfer fy nghelfyddyd. Dyna pam mae’r llun yn gallu edrych yn wasgarog ac yn anorffenedig. Anaml iawn y bydd unrhyw luniadau rhagbaratoadol ar gyfer unrhyw un o’r lluniau, sy’n caniatáu lle a rhyddid i’r lluniau fynd i unrhyw gyfeiriad. Dwi’n edrych am gydbwysedd o naïfrwydd ynghyd â drafftsmonaeth a marcio cryf. Mae cyfansoddiad yn holl bwysig. Aiff hyn yn wrthdrawiad wedyn rhwng esblygu a digwydd.” Geiriau gan yr artist.
Gwener, 22 Ionawr (6.30pm) - Sadwrn, 6 Mawrth
|
|
|

|
Ymlaen a'r Sioe!
14 Mawrth, 2010

|
|
Oriau Agor : Swyddfa Docynnau Galeri
08 Chwefror, 2010

|
|
Safle Celf : arddangosfa newydd
20 Ionawr, 2010

|
|
Ymunwch â Chyfeillion Galeri
14 Ionawr, 2010

|
|
Gwasanaethau Rheolaeth Eiddo a Phrosiect
13 Ionawr, 2010

|
|
Ship-Shape
07 Awst, 2009

|
|
BWYDLEN NEWYDD DOC
06 Awst, 2009

|
|
Galeri yn cipio’r dwbwl yng Ngŵyl Ffilm Zoom 2009!
29 Ionawr, 2009

|
|
Gwobr Cyflawniad Cymru 2008
12 Rhagfyr, 2008

|
|
Galeri yn ennill Gwobr Busnes a Chynaladwyedd Cymru
03 Tachwedd, 2008

|
|
Galeri yn cael ei gyhoeddi'n Gwmni Disglair
24 Gorffennaf, 2008

|
|