Galeri Caernarfon

Amdanom Ni

Mae Cafe Bar DOC, yng Nghanolfan Mentrau Creadigol Galeri, yn cael ei redeg gan Galeri Caernarfon Cyf. Mae DOC yn cynnig y canlynol i gwsmeriaid:

  • cynnyrch lleol ffres (a chynnyrch Masnach Deg lle y bo'n bosibl);
  • dewis amrywiol i lysieuwyr a deietau arbenigol eraill;
  • gwerth gwych am arian (yn arbennig bwydlen cinio dydd Sul a'r prydau arbennig wythnosol);
  • bwyta ac yfed yn yr awyr agored, gyda golygfeydd godidog o Doc Fictoria a'r Fenai;
  • lleoliad perffaith i ymweld a ffrindiau, cynnal cyfarfod busnes neu ar gyfer part•on mwy o faint (pen-blwydd / Nadolig ac ati);
  • amrywiaeth o winoedd, cwrw, gwirodydd, diodydd poeth a choffi arbenigol;
  • cysylltiad Wi-Fi am ddim;
  • Awyrgylch anffurfiol gyda naws gyfoes.

Ar agor 7 diwrnod yr wythnos (cafe o 10am a'r bar o 11am), galwch i mewn i weld Ifan, Wendy a gweddill y tim.

01286 685 200, Ebost: doc@galericaernarfon.com

Change Language

English

Footer