Galeri Caernarfon

/images/company/Company_homepage_pic_3.JPG /images/company/Company_homepage_pic_6.JPG /images/company/galeri_front.jpg /images/company/company_homepage_pic_4.JPG /images/company/Company_homepage_pic_7.jpg

Amdanom Ni...

Mae Galeri Caernarfon Cyf (Cwmni Tref Caernarfon Cyf gynt) yn fenter gymunedol ddi-elw sy'n gweithredu fel Ymddiriedolaeth Datblygu.

Gweledigaeth Galeri Caernarfon Cyf yw bod - "unrhyw beth yn bosibl...drwy feddwl yn greadigol a gweithredu cynaliadwy"

Er mwyn gwireddu'r weledigaeth bydd y cwmni yn: "gweithredu prosiectau cynaliadwy mewn ffordd greadigol i wireddu potensial diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol y gymuned leol a'r cyffiniau"

Mwy am y Cwmni

Sefydlwyd y cwmni yn 1992 i “fynd ar drywydd prosiectau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol er budd y gymuned yng Nghaernarfon a’r cyffiniau”.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn gyfrifol am sefydlu a gweithredu nifer o brosiectau a chynlluniau yn y gymuned, yn cynnwys:

  • Datblygu eiddo
  • Cynnal Prosiect Celfyddydol SBARC! i Blant a Phobl Ifanc
  • Bod yn berchen ar Ganolfan Menter Greadigol Galeri a’i rhedeg
  • Gwasanaethau Ymgynghori POSIB (rhannu arbenigedd mewn prosiectau adfywio, rheoli prosiectau a hyfforddiant)

Yn y blynyddoedd cynnar, gweithiodd y cwmni’n ddiflino i wella delwedd canol tref Caernarfon drwy brynu adeiladau adfeiliedig (siopau, swyddfeydd a thai) o fewn waliau’r dref. Hyd yma, mae’r Ymddiriedolaeth wedi adnewyddu ac ailddatblygu 19 adeilad a arferai fod yn wag yng nghanol tref Caernarfon, yn ogystal a datblygu Canolfan Mentrau Creadigol Galeri yn ardal Doc Fictoria’r dref.

Canolfan Menter Greadigol Galeri a agorwyd yn swyddogol ym mis Ebrill 2005, yw prosiect mwyaf o ran maint a mwyaf uchelgeisiol yr Ymddiriedolaeth hyd yma – gan gostio £7.5m. Mae Galeri yn cynnwys:

  • theatr a sinema 394 o seddi
  • 24 o unedau swyddfa
  • Safle Celf
  • 2 stiwdio ymarfer fawr
  • 3 ystafell ymarfer llai o faint
  • Ystafelloedd cyfarfod
  • Cafe Bar DOC (yn gweini cynnyrch cartref lleol, ffres)

Ers 2000, mae’r Ymddiriedolaeth hefyd wedi bod yn cynnal Prosiect Celfyddydol llwyddiannus o’r enw SBARC!. Mae’r prosiect yn darparu amrywiaeth o ddosbarthiadau perfformio ac Ysgol Roc i blant a phobl ifanc (rhwng 7 a 21 oed) o’r ardal yn ogystal a threfnu nifer o weithdai drwy gydol y flwyddyn gan ganolbwyntio ar y cyfryngau newydd/ffilm ac ysgrifennu. Mae 200 o blant yn elwa o brosiect SBARC! bob wythnos.

POSIB yw cangen ymgynghori a hyfforddiant yr Ymddiriedolaeth. Gallwn gynnig hyfforddiant ac arweiniad penodol ym meysydd datblygu eiddo, rheoli/cynnal a chadw a/neu reoli prosiectau. Dros y blynyddoedd, rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Antur Waunfawr yn ogystal a rheoli portffolio eiddo Cwmni Adwy Cyf a hynny fel asiantaeth.

Change Language

English

Footer