galeri


Green Book (12A)

image

Mae Dr. Don Shirley yn Americanwr-Affricanaidd ac yn bianydd o’r radd flaenaf yn y byd sy’n cychwyn ar daith cyngherddau yn Ne’r wlad ym 1962. Yn chwilio am yrrwr a rhywun i’w ddiogelu, mae Shirley’n recriwtio Tony Lip, goruchwyliwr drysau di-flewyn ar dafod o gymdogaeth Eidalaidd-Americanaidd yn y Bronx. Er gwaethaf eu gwahaniaethau, nid yw’n hir cyn bod y ddau ŵr yn datblygu perthynas annisgwyl yn wyneb hiliaeth a pherygl go iawn yr oes arwahanu.

 

Mi fydd y ffilm yn dechrau’n brydlon ar amser. Bydd y drysau yn agor 20 munud cyn amser dechrau’r ffilm.

 

Bydd pris tocynnau yn codi £1.50 yr un ar ddiwrnod y dangosiad. Mae pris tocynnau yn cynnwys ffi archebu o 50c y tocyn.

20:15 - Dydd Llun, 18 Chwefror Tocynnau

20:15 - Dydd Mawrth, 19 Chwefror Tocynnau

20:15 - Dydd Mercher, 20 Chwefror Tocynnau


Trêl