galeri


Athena a Trystan Llyr Griffiths

image

Tair o sopranos mwyaf blaenllaw Cymru ydi’r triawd clasurol ‘Athena’ sef Gwawr Edwards, Sioned Terry ac Ellen Williams.

Yn sgil eu llwyddiant cynnar, mae’r dair wedi bod yn brysur yn dylunio eu sain unigryw eu hunain, yn creu trefniannau a harmoniau. Ymysg eu perfformiadau canu mewn noson arbennig i dim pel droed Cymru. Mae Athena yn edrych ymlaen yn fawr at ddod i Galeri i ddathlu Gŵyl Dewi ac i ganu ffefrynnau a chlasuron o’r byd clasurol a’r goreuon o Gymru.

Yn ychwanegol i Athena, bydd y tenor o Grymych, Trystan Llŷr Griffiths yn ymuno ar gyfer y cyngerdd Gwyl Dewi Sant. Yn ddiweddar, arwyddodd Trystan gytundeb aml-albwm gyda Decca Records. Gwnaeth Trystan ei début operatig proffesiynol yn 2015 yn perfformio rhan Ferrando yng nghynhyrchiad teithiol Scottish Opera o Cosi fan tutte.  Yn dilyn hyn, fe wnaeth dirprwyo rhan Nemorino yn L’elisir d’amore gydag Opera North cyn mynd ymlaen i wneud ei début gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn canu rhan Beppe yn I Pagliacci.

Mae ei lais diymdrech, a'i bersonoliaeth naturiol yn ei wneud yn ddewis poblogaidd gyda chynulleidfaoedd ac edrychwn ymlaen i groesawu Trystan ac Athena i berfformio am y tro cyntaf yn Galeri.

 

===============================================

 

<Noder: Dyddiad newydd yn dilyn gohirio'r cyngerdd gwreiddiol ym mis Mawrth oherwydd y tywydd>

19:30 - Dydd Mawrth, 8 Mai Tocynnau