galeri


Hedd Wyn (12A)

image

Cyfle i wylio’r ffilm a enwebwyd am Oscar ym 1992 - Hedd Wyn ar y sgrîn fawr.

 

Tocyn yn cynnwys diod meddal ar diwedd y ffilm.

 

Dangosir y ffilm i goffau canmlwyddiant marwolaeth Hedd Wyn yn Ypres. Fel rhan o ddigwyddiadau Diwrnod y Lluoedd Arfog, Gogledd Cymru, bydd Eglwys Santes Fair, Caernarfon yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau rhwng 12 Mehefin ac 18 Mehefin ac yn arddangos replica o’r Gadair Ddu, yr enwocaf o holl gadeiriau barddol Cymreig.

 

Dyma ffilm ‘Sgrin am Sgrin’ (£1 y tocyn) mis Mehefin. Yn anffodus, nid yw’n bosib archebu tocynnau ar-lein, ond mae modd archebu drwy ffonio 01286 685 222 neu o Galeri (awgrymwn eich bod yn archebu tocynnau ymlaen llaw)

15.06.2017 | 19:30 - Tocynnau