galeri


Macbeth (12A)

image

Theatr Gen Byw: MACBETH

“Hyll yw'r teg, a theg yw'r hyll;
Hofran yn yr aflan niwl a'r gwyll.”


Mae brenin yr Alban wedi gwobrwyo ei filwr mwyaf disglair yn hael. Ond mae bodau goruwchnaturiol wedi darogan i Macbeth anrhydedd lawer mwy. Pan fo ei wraig ddidostur yn gwirioni ar addewid o bŵer di-ben-draw, gan annog uchelgais cythreulig ei gŵr, mae ar ben arno, ac mae cynllun dieflig y ddau yn troi’n gyflafan waedlyd.  

Cynhyrchiad safle benodol Theatr Genedlaethol Cymru –yn fyw o Gastell Caerffili– o glasur Shakespeare wedi ei gyfieithu o’r newydd i’r Gymraeg gan y diweddar Gwyn Thomas.

Cast yn cynnwys:
Richard Lynch (Pobol y Cwm) fel Macbeth
Ffion Dafis (Byw Celwydd) fel ei wraig ddi-drugaredd.
Cyfarwyddwr; Arwel Gruffydd.

“.... y mae pethau
Yn ddrwg ddechreuwyd, trwy ddrwg yn ymgryfhau.”

Ail-ddangosiad (sydd yn cynnwys is-deitlau Saesneg) yw hwn. Hyd cynhyrchiad: 2" 45m

 

Dyma gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Cadw a gyda chefnogaeth gan Chapter.

 

01.03.2017 | 13:00 - Tocynnau