galeri


Café Bar

Mae ein Café Bar yn cynnig bwyd cartref sydd yn defnyddio cynnyrch ffres gan gyflenwyr lleol yma'n Galeri.

Yn anffodus, oherwydd amgylchiadau sydd yn gyfarwydd iawn ar hyn o bryd yn y sector lletygarwch, mae'r cynnig/gwasanaeth cegin wedi cael ei gwtogi er mwyn sicrhau ein safonau a chysondeb yn ein cynnig o ran bwyd a gwasanaeth. Er hynny, rydym yn anelu i ddatblygu ein cynnig yn ystod y misoedd nesaf.

Fwy nag erioed, awgrymwn eich bod yn archebu bwrdd ymlaen llaw. Gellir archebu bwrdd drwy ffonio 01286 685 200, drwy ebostio cegin@galericaernarfon.com neu drwy’r ffurflen ar-lein yma